#

 

 

 

 


Briff y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-793

Teitl y ddeiseb: Band eang cyflym i bentref Llangenni

Testun y ddeiseb:

Rydym ni, preswylwyr pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel erbyn 31 Rhagfyr 2017.

Ar hyn o bryd, mae preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth presennol yn gwbl annerbyniol.

Cefndir

Mae nifer o fentrau a gefnogir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth band eang, a chynyddu mynediad at fand eang cyflym.

Mae'r gwaith ymchwil diweddaraf gan Ofcom yn dangos bod gan fwy nag 84% o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y rhyngrwyd yn 2017, a bod gan bron wyth o bob 10 o aelwydydd (78%) fynediad at fand eang sefydlog yn y cartref.

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae Symud Cymru Ymlaen, y Rhaglen Lywodraethu, yn cynnwys yr ymrwymiad i:

Ddod â phobl ynghyd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.

Cyflymu Cymru yw cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang cyflym iawn (cyflymder arferol o 24 megabit yr eiliad neu fwy) i oddeutu 96 y cant o Gymru erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017. Dim ond mewn ardaloedd y mae Llywodraeth Cymru wedi asesu na fyddent fel arall yn cael eu cynnwys yn y broses fasnachol o gyflwyno seilwaith band eang y mae'r cynllun hwn yn weithredol. BT sy’n darparu’r cynllun hwn, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, yr UE a Llywodraeth y DU, ynghyd â’i fuddsoddiad ei hun.

Dyddiad cwblhau gwreiddiol y prosiect oedd mis Mehefin 2016, ond ymestynnwyd hyn i fis Mehefin 2017 i alluogi BT i gynnwys mwy o safleoedd. Yna roedd gan BT ffenestr chwe mis i orffen unrhyw waith a oedd heb ei gwblhau cyn “dyddiad cau terfynol” y contract, sef 31 Rhagfyr 2017.  Roedd y cytundeb gyda BT i ddarparu prosiect Cyflymu Cymru yn golygu ei fod yn darparu mynediad i fand eang cyflym iawn i 690,000 o safleoedd erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017.  Mae BT yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 11 Ionawr 2018 i drafod y cynnydd y mae wedi'i wneud o ran bodloni gofynion contract Cyflymu Cymru.  Mae prosiect yn cael ei ddatblygu i olynu Cyflymu Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal dau gynllun arall i wella argaeledd band eang:

§    Allwedd Band Eang Cymru: mae grantiau o hyd at £800 ar gael lle na all y safle gael mynediad at fand eang cyflym ar hyn o bryd;

§    Y Cynllun Taleb Gwibgyswllt: mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i ariannu costau gosod cysylltiadau cyflym iawn newydd ar gyfer busnesau yng Nghymru (neu eu hariannu'n rhannol).

Ceir rhagor o fanylion yn y llythyr at y Cadeirydd gan Lywodraeth Cymru.

Camau gweithredu gan Lywodraeth y DU

Bydd rhywfaint o ryngweithio rhwng mentrau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes polisi hwn.  Ym mis Tachwedd 2015, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar gyfer band eang, a fyddai'n rhoi hawl gyfreithiol i bawb yn y DU i gysylltiad band eang cyflym ar gais (y disgwylir iddo fod yn 10 Mbps), yn ddarostyngedig i gyfyngiad ar y gost i'r darparwr ar gyfer darparu'r gwasanaeth (yn debyg i'r hyn sy'n gymwys i'r hawl i gael llinell ffôn). O ganlyniad, cafodd pwerau galluogi ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar gyfer band eang eu cynnwys yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2017.

Ar 30 Gorffennaf 2017, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y fanyleb ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol newydd ar gyfer band eang a fyddai'n cael ei gosod mewn is-ddeddfwriaeth.  Ar yr un diwrnod, cyhoeddwyd bod BT wedi gwneud cynnig gwirfoddol manwl ar gyfer darparu band eang cyffredinol o 10Mbps o leiaf i eiddo ledled y DU.  Croesawodd Llywodraeth y DU y cynnig hwn, gan fod ganddo'r potensial i ddarparu cysylltiadau gwell i bobl yn gynt na thrwy lwybr rheoleiddiol.

Fodd bynnag, ar 20 Rhagfyr 2017, cadarnhaodd Llywodraeth y DU na fydd yn ymrwymo i gytundeb gwirfoddol gyda BT ac y byddai'r DU gyfan, yn unol ag amodau penodol, yn cael mynediad at gyflymder o 10 Mbps o leiaf erbyn 2020.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ei adroddiad ynghylch y Seilwaith Digidol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017, galwodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gysylltu'r ardaloedd hynny yng Nghymru heb fynediad band eang cyflym. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.